A ddaw glo nôl ar y brig?
PAM ddylwn i osod lbiau arbed ynni yn fy nhw, tra bod China yn agor dau bwerdy glo newydd bob wythnos? Pam ddylwn i brynu llai o offer electronig, tra bod China yn mynnu defnyddio hen dechnoleg a llosgi'r tanwydd mwyaf brwnt a welwyd erioed?
Os oes disgwyl i fi newid fy ffordd o fyw er mwyn arbed newid hinsawdd, mae angen i'r wlad yna ddechrau arbed ynni a llygru llai o'n hatmosffer hefyd!
Mae ein llywodraeth yn brolio y gall Prydain arwain y ffordd yn nhechnoleg amgen a dangos arweiniad i'r gwledydd datblygol ar sut i leihau effaith negyddol ar ein byd wrth gynhyrchu digon o ynni i gynnal holl drigolion y wlad.
Os felly, pam ar y ddaear mae llywodraeth San Steffan yn meddwl rhoi caniatâd i adeiladu pwerdai glo yma ym Mhrydain? Ar ddechrau Ionawr, mae cais am ganiatâd i adeiladu'r pwerdy glo cyntaf ym Mhrydain ers dros 30 mlynedd wedi cael ei gymeradwyo gan Awdurdod Lleol Swydd Caint (Kent). Mae'r penderfyniad yn awr yn nwylo llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ond rhaid cofio bod o leiaf wyth cynllun arall yn aros am ganlyniad y penderfyniad yma.
Mae'r cwmnïau mawr enwog yma — sy'n brolio ar y teledu, eu bod yn buddsoddi mewn technoleg adnewyddadwy, yn brwydro i gael yr hawl i agor y pwerdai yma er gwaethaf anghenion y wlad i leihau ei gynhyrchiad o nwyon ty gwydr.
Maent yn nodi bod modd defnyddio technoleg newydd sbon o'r enw carbon capture and storage. Mae hyn yn golygu technoleg sy'n medru dal yn CO2 wrth ei fod yn dod allan o simneiau'r pwerdy a'i ail gyfeirio at fan storio dan y ddaear — gan amlaf hen faes olew. Ar hyn o bryd mae'r dechnoleg yma'n dal ar ffurf arbrofol, ac mae'r Canghellor Alister Darling wedi cyfaddef, efallai na fydd y dechnoleg yma byth ar gael ar gyfer pwerdai. Os felly, bydd agor pwerdai glo unwaith eto yn clymu Prydain i mewn i ddegawdau o lygru'r blaned, ac yn ymadael â'r targed o leihau ein lefelau allyriant (emissions) 80 o gant. Bydd un pwerdy glo yn creu fwy o nwyon ty gwydr na chyfanswm llygredd y 24 gwlad sy'n cynhyrchu lleiaf o nwyon yn y byd.
Gyda phrisiau olew a nwy wedi codi yn syfrdanol dros y blynyddoedd diwethaf, mae glo unwaith eto yn opsiwn deniadol. Mae'r diwydiant glo yn rhan annatod o'n diwylliant a'n treftadaeth ni'r Cymry, gyda llawer o'r genhedlaeth ifanc yn anymwybodol o'r aberth a ddangoswyd gan lowyr led y wlad. Ond ydy pethau ar newid? Yn ddiweddar agorwyd Ffos y Frân, ger Merthyr Tudful, safle glo brig mwyaf Prydain erioed. Mae'r cwmni yn bwriadu cloddio am dros 11 miliwn tunnell o lo, a phan fydd y swm yma yn cael ei losgi, mi fydd yn creu 30 miliwn tunnell o CO2.
Mae yna angen amlwg i ni gadw lefelau CO2 o dan 450 rhan ym mhob miliwn gan mai dyma faint fydd yn achosi i gynhesu byd eang fynd allan o reolaeth lwyr. Bydd y pwerdai glo newydd yn codi ein lefelau presennol, sydd dros 380 rhan ym mhob miliwn, yn agosach i'r pwynt tipio yma ac yn ymrwymo dynoliaeth i ddyfodol dychrynllyd.
Prydain a gwledydd eraill y gorllewin sy'n gyfrifol am y lefelau CO2 uchel presennol sydd yn ein hatmosffer, ac os ydym ni yn disgwyl i wledydd fel China ac India ddatblygu mewn ffordd amgylcheddol gyfrifol, mae'n rhaid i ni ddangos arweiniad a hyrwyddo'r defnydd o dechnoleg amgen. Does dim disgwyl i eraill newid eu ffyrdd hyd nes ein bod ni hefyd yn barod i newid.
Mae gan un pwerdy glo y gallu i ddadwneud holl waith da miliynau o drigolion y wlad, sydd yn ymdrechu i leihau eu lefelau CO2 nhw.
Mae angen i ni ddangos gwir esiampl i'r byd — drwy wrthod dychwelyd i oes y glo!
gan Aled Vaughan Owen







Comments