Y Golofn Werdd — Beth i wisgo?

Trusted article source icon
Wednesday, December 31, 2008
Profile image for This is SouthWales

This is SouthWales

PA mor aml mae pob un ohonom wedi dweud y geiriau "does gen i ddim i wisgo?"

Yn syth rydym ar y ffordd i'r dre i brynu dilledyn newydd. Ond, os edrychwn yn ddigon manwl yn ein cwpwrdd dillad, mae gennym fwy na ddigon i wisgo. Yr unig broblem yw ei fod y lliw anghywir neu steil hen-ffasiwn (er mai dim ond cwpwl o fisoedd yn ôl fe brynwyd.) Ond does dim ots, mae 'na ddigon o siopau sy'n gwerthu'r ffasiwn ddiweddara a phris rhesymol iawn. Gall bob un ohonom brynu crys, trowsus, sgert ayyb a'u gwisgo un waith ac wedyn anghofio amdanynt. Mae ffasiwn wedi dod mor rhad, a phwysau gan y cyfryngrau mor llethol yn cyfleu'r neges bod angen i ni brynu dillad newydd er mwyn dangos i'r byd ein bod yn normal.

Ond sut gall ddillad fod mor rhad? Os gymeraf yr hen grys rwyf yn ei wisgo nawr fel esiampl. Crys digon cyffredin wedi ei brynu o un o siopau enwocaf y stryd fawr. Ar y label, mae'n dweud yn glir - "Made in China." Rydym ni'n gyfarwydd iawn gyda phryderon am gyflwr ffactrïoedd y wlad, gyda miloedd o bobl yn cael eu gorfodi i weithio oriau hir am gyflog bach iawn heb allu disgwyl gofal iechyd gan y cwmnïau. Ond am y tro yma rwyf yn mynd i ganolbwyntio ar ffynonellau defnydd y crys. Cotwm yw prif ddefnydd fy nghrys, ac yn anffodus nid yw'n dod o ffynhonnell organig.

Mae yna siawns go dda, bod y cotwm sydd yn fy nghrys wedi dod o Uzbekistan, sef un o brif gynhyrchwr cotwm y byd.

Mae cotwm yn cael ei ystyried yn ddefnydd naturiol iawn ac yn aml yn cael ei hyrwyddo fel cynnyrch eco gyfeillgar. Nid yw hyn yn gywir! Mae'r modd mae'n cael ei gynhyrchu a'r modd y mae trigolion y wlad yn cael eu gorfodi i weithio o dan amodau dychrynllyd yn unrhyw beth ond gyfeillgar.

Pob Hydref, mae llywodraeth Uzbekistan yn gorfodi ysgolion i gau ac yn anfon degau o filoedd o fyfyrwyr a phlant (mor ifanc â saith mlwydd oed) allan i weithio yng nghaeau cotwm y wlad. Gan amlaf nid ydynt yn derbyn tâl am eu gwaith, ond yn hytrach gallant ddisgwyl canlyniadau academaidd isel os nad ydynt yn cyrraedd cwota a osodwyd iddynt. Maent yn ffodus i fedru cael seibiant am luniaeth yn ystod y pymtheg awr o waith pob dydd. Nid yw pethau yn well i'r ffermwr chwaith. Maent yn gweithio drwy'r flwyddyn i sicrhau cyflenwad o gotwm, ond dim ond i'r llywodraeth y mae ganddynt yr hawl i'w werthu. Golyga hyn, eu bod yn derbyn dim ond 30 o gant o werth y cynnyrch o'i gymharu â'r farchnad agored.

Mae'r swm isel yma, mae'r llywodraeth yn talu ffermwyr a'r gweithwyr yn rhannol gyfrifol am y pris rhad am ddillad y gwelwn ar y stryd fawr.

Llaw yn llaw gyda'r lefel isel o iawnderau dynol, mae trychinebau amgylcheddol ofnadwy yn digwydd yn y wlad. Mae angen swm aruthrol o ddwr i dyfu cotwm ac o ganlyniad, ers 1989, mae afonydd sy'n bwydo'r Môr Aral wedi cael eu hecsploetio i'r fath raddau fel bod y môr erbyn hyn yn 15 o gant o'i faint wreiddiol.

Nid yn unig bod y 24 rhywogaeth unigryw o bysgod wedi diflannu ond mae'r trefi a'u porthladdoedd a fu yn dibynnu ar y môr am eu bwyd ac economi, erbyn hyn dros 30 milltir o'r dwr.

Mae'n hawdd gwerthu nwyddau os nad oes rhaid i chi dalu'n llawn am y deunydd, talu pobl i weithio a sicrhau eich bod yn cadw i reolau amgylcheddol. Ond drwy brynu dillad cotwm yn ddi ddiwedd rydym yn rhoi sêl bendith i'r gweithgareddau ofnadwy yma ac yn ymrwymo trigolion gwledydd eraill i fywyd anodd a hunllefus.

Y Môr Aral yn 1989 a 2008.

Gall pob un ohonom wneud ymdrech fach i leihau'r broses yma, drwy chwilio am gynnyrch sydd yn organig neu yn hyrwyddo Masnach Deg. Mae mwy a mwy o siopau yn dechrau gwerthu dillad cotwm o ffynonellau cyfrifol, a dylwn ni gefnogi'r math yma o ddillad er mwyn ysgogi newid ym mhroses cynhyrchu dillad ar draws ein byd.

0
Tweet this article
Report

Your comments awaiting moderation

Be the first to comment

max 4000 characters