Y Drindod yn lansio Fframwaith Arfer Proffesiynol
MAE Coleg y Drindod Caerfyrddin wedi lansio Fframwaith Arfer Proffesiynol arloesol er mwyn cwrdd â gofynion gweithwyr a chyflogwyr yn yr ardal.
Mae ystod o ddyfarniadau arfer proffesiynol ar gael y gellir eu hastudio drwy ddefnyddio arferion gwaith bob dydd fel sail i'r astudiaethau.
-

Mae'r rhaglen, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â dysgu trwy waith Ufi/learndirect, yn gallu dechrau gyda dim ond 10 credyd ac wedyn arwain at dystysgrifau a diplomau lefel brifysgol, yn ogystal â chymwysterau gradd a graddau meistr.
"Mae'r fframwaith hwn yn galluogi unigolion i ennill credydau prifysgol am y dysgu maent yn ei wneud yn y gweithle" meddai Meri Huws (yn y llun), a benodwyd yn ddiweddar fel Cyfarwyddwr Arloesi, Sgiliau a Chymuned y Drindod.
"Y Drindod yw'r coleg prifysgol cyntaf yng Nghymru i gynnig y rhaglen hon ac mae'n nodi cyfleoedd cyffrous i gyflogwyr a gweithwyr o fewn yr ardal."
Ychwanegodd Dr Liz Wilson, sydd wedi ysgrifennu'r rhaglen, fod "y rhaglen yn caniatáu i gyflogwyr ddatblygu sgiliau eu staff ar lefel uwch drwy brosiectau perthnasol a leolir yn y gweithle a gall hefyd ddarparu cyfleoedd dysgu unigol i staff heb iddynt orfod cymryd amser o'r gwaith i fynd i'r brifysgol".
Ychwanegodd, "ar gyfer aelodau unigol o staff mae'n llwybr deilwredig at gymhwyster cydnabyddedig ar lefel brifysgol sy'n defnyddio'r gwir brosiectau maent yn eu cwblhau fel rhan o'u rôl.
Gall y Drindod weithio hefyd gyda chyflogwyr i achredu eu rhaglenni datblygiad staff eu hunain er mwyn ychwanegu gwerth at hyfforddiant ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr".
"Mae'r rhaglenni hyn yn rhan o ddatblygiadau mawr yn y Drindod a fydd yn galluogi cyflogwyr a gweithwyr yn yr ardal i gael at yr arbenigedd sydd ar gael yma" nododd Meri Huws.
"Yn ogystal, byddant yn galluogi'r Drindod i weithio'n agos gyda'r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol i sicrhau mai galw sy'n arwain y ddarpariaeth a'i bod yn canolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen gan gyflogwyr.
Fel Prifysgol Gymunedol Gorllewin Cymru, mae'r Coleg mewn sefyllfa wych i fynd i'r afael â diffyg sgiliau o fewn yr ardal a gwneud cyfraniad cadarnhaol i adfywiad economaidd De-orllewin Cymru."











Comments