Pwerau dyfarnu graddau Y Drindod
MAE Coleg y Drindod yn dathlu llwyddiant derbyn pwerau dyfarnu graddau a addysgir fydd yn ei alluogi i ddod yn Goleg Prifysgol y Drindod.
"Mae hyn yn gyfnod pwysig iawn yn hanes hir Coleg y Drindod" meddai Medwin Hughes, y prifathro. Cafodd y statws newydd ei gymeradwyo gan y Cyfrin Gyngor ar ran Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth ar Ragfyr 9. Aeth Dr Hughes yn ei flaen i ddweud "Mae darparu ar gyfer anghenion addysg a hyfforddiant Cymru wedi bod yn greiddiol i'r Drindod er ei sefydlu yn 1848 yn sgil yr adroddiad damniol a ddaeth i'w adnabod fel Brad y Llyfrau Gleision. Mae'r Coleg wedi datblygu rôl allweddol yng Ngorllewin Cymru o ran darparu addysg uwch ddwyieithog i weithlu'r rhanbarth ac yn llwyddo i gyrraedd y safonau academaidd uchaf yn y broses". Dywed Mark James, prif weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, "Mae'r Cyngor yn eithriadol o falch bod Coleg y Drindod wedi ennill Statws Prifysgol. Mae'n llawn haeddu'r teitl. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Corff Llywodraethol, gan gydweithio'n agos â'r Prifathro, Dr Medwin Hughes a'i dîm rheoli, wedi arwain y Coleg o nerth i nerth. Bu'r Cyngor yn cydweithio'n agos â'r Coleg i gefnogi ei ddyheadau ac i gynorthwyo â'i ymlediad cyffrous yn y Sir. Rydym yn falch o gael Prifysgol ar gyfer y Sir, â'i chanolfan yng Nghaerfyrddin, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda'r Drindod wrth iddo ddal ati i ddatblygu'n llwyddiannus yn y dyfodol." Ychwanegodd Dr Hughes "Mae'r newyddion yn dilyn yn fuan ar ôl dau adroddiad gwych sy'n cadarnhau safonau uchel ac ansawdd ein rhaglenni gradd a dderbyniwyd drwy arolwg sefydliadol gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ac adroddiad gan Estyn ar ddarpariaeth addysg a hyfforddiant cychwynnol athrawon yn y Drindod. Rwy'n ddiolchgar i'r llywodraethwyr a'r staff am eu gwaith caled a'u cefnogaeth barhaol."











Comments