Lansio DVD newydd 'Straeon a Strabs'
Lansiwyd DVD newydd Straeon a Strabs ar Dachwedd 20, diolch i Gwenith Petty am ei sylwadau calonnog.
Mae'r DVD yma yn llawn hanes cymeriadau bro Llanfihangel ar Arth. Ardal sydd yn llawn straeon am strabs a strabs sydd a llawer o straeon.
Mae'r DVD yn caniatáu bod straeon a hanes cymeriadau'r filltir sgwâr yma ar gael am flynyddoedd i ddod.
Yr ydym yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd storïau a hanes ac i gynllun Milltir Sgwâr Antur Teifi ac Arian i Bawb y Loteri Fawr am ariannir cynllun.
Os hoffech gopi o'r DVD cysylltwch â ni ar 01559 384 528 neu e bost neuadd@llanfihangel.plus.com – cost DVD 'Straeon a Strabs yw £8'
Bu'r Ffair Nadolig yn Neuadd yr Ysgol ar y Dachwedd 14 am 7.30yh yn lwyddiant mawr.
Cafwyd arddangosfa gwych a syniadau hyfryd ar sut i addurno cacen Nadolig gan Sian Davies a bu'r plant yn mwynhau creu addurniadau. Diolchwn i'r llywyddion Oriel a Carina Jones am eu cefnogaeth a'u haelioni.
Diolch i bawb am eu cefnogaeth ac am haelioni'r rhai a gyfrannodd cacennau, llyfrau, gwaith crefft ac amryw nwyddau i'r stondinau i werthu. O ganlyniad casglwyd £944.76 swm sy'n dangos y gefnogaeth sydd i'r Neuadd fel canolfan gymdeithasol bwysig i'r pentref a'r ardal.











Comments