Disgyblion creadigol
CYNHALIWYD cystadleuaeth dylunio Carden Nadolig ar y cyd rhwng Yr Amgueddfa Wlân a Menter Gorllewin Sir Gâr ym mis Tachwedd eleni.
Mynychodd tair ysgol leol gweithdai a chynhyrchwyd nifer o gardiau o safon.
Gweler yn y lluniau, enillwyr o bob ysgol. Enillwyr Ysgol Brynsaron – Karl ac Elgan. Enillwyr Ysgol Penboyr – Pheobe a Megan. Enillwyr Ysgol Aberbanc – Dion ac Alaw. Llongyfarchiadau i bawb yn enwedig i Dion o Ysgol Aberbanc a oedd yn brif enillydd y gystadleuaeth.









Comments