Côr Caerfyrddin

Trusted article source icon
Tuesday, December 30, 2008
Profile image for This is SouthWales

This is SouthWales

Cafodd y Côr brofiadau tra amrywiol a gwahanol yn ystod y tymor hwn.

Ymunodd dau o gorau John S Davies, sef Côr Dewi Sant a Chôr Caerfyrddin gyda Huw Tregelles Williams wrth yr organ, yng Nghapel Bethlehem, Pwll Trap, Sanclêr ynghyd â chantorion lleol i recordio dwy raglen gan gwmni teledu Avanti, Dechrau Canu, Dechrau Canmol o emynau gan emynwyr Sir Gâr.

Darlledwyd ar y ddau nos Sul yr ail a'r unfed ar bymtheg o Dachwedd.

Ar Dachwedd 26, braf oedd i'r Côr gael y cyfle i gyflwyno rhaglen o gerddoriaeth, yn bennaf ar gyfer yr Adfent, i ysbyty Glangwili. Y cyfeilydd oedd Christopher Williams a darlledwyd y cyfan ar Radio Glangwili.

Gwir yw dweud bod cerddoriaeth yn llesol i'r corff, meddwl ac enaid. Mawr obeithia'r arweinydd a'r cantorion y cafodd y cleifion, y staff a'r ymwelwyr fel ei gilydd, ddiddanwch a gwellhad wrth wrando.

Eleni ar drothwy'r Nadolig, torrwyd cwys newydd. Ar Ragfyr 6, teithiodd Côr Caerfyrddin i Eglwys Gymraeg Dewi Sant, Gaerdydd i berfformio'i cyngerdd blynyddol yr adeg hon o'r flwyddyn.

Cyflwynwyd rhaglen gynhwysfawr a safonol o gerddoriaeth ar gyfer tymor yr Adfent, ynghyd â dau ddatganiad o waith Debussy ar y piano gan Caradog Williams. Gwerthfawrogwyd yn fawr gan y gynulleidfa gref oedd yn bresennol, wir naws ddefosiynol a grëwyd gan y dehongliad ystyrlon a disgybledig o'r darnau corawl ynghyd â chyfraniad dawnus y cyfeilydd.

Bu'n brofiad arbennig yno i dderbyn croeso cynnes a chwmni cyn–aelod o'r Côr, y Parchedig Hywel Davies, Ficer Eglwys Dewi Sant, ynghyd â swyddogion ac aelodau'r eglwys hon.

Yn ogystal, mae Côr Caerfyrddin yn edrych ymlaen yn frwd at Ddydd Llun y Pasg 2009, sef Ebrill 13 am 7yh yn Eglwys Gadeiriol Ty^

Ddewi, pryd cynhelir cyngerdd Tri Chôr Yn Y Gadeirlan.

Perfformir yno Stabat Mater, Dvorak a chytganau'r Pasg o Meseia, Handel.

Credir mai dyma'r tro cyntaf erioed i dri chôr uno i berfformio yn y Gadeirlan, a'r tro cyntaf i Gantorion John S Davies, Côr Dewi Sant a Chôr Caerfyrddin berfformio gyda'i gilydd i gyfeiliant Cerddorfa Lawn Westward, a'r cyfanwaith o dan faton John S Davies. Ceir mwy o fanylion am y digwyddiad hanesyddol a chyffrous hwn ar ddechrau'r flwyddyn newydd.

0
Tweet this article
Report

Your comments awaiting moderation

Be the first to comment

max 4000 characters