Ar y diwrnod yma. . .

Trusted article source icon
Wednesday, December 31, 2008
Profile image for This is SouthWales

This is SouthWales

Y pedwerydd ar hugain o Ragfyr

Heddiw ym 1995: Lansiwyd y gwasanaeth ffôn cyntaf i ddysgwyr i roi gwybodaeth rhwng y Nadolig a dechrau'r tymor.

Y pumed ar hugain o Ragfyr

Heddiw ym 1858: Ganwyd Syr Owen Morgan Edwards, Llanuwchllyn - un o gymwynaswyr mawr y Gymraeg yn ei oes.

Y chweched ar hugain o Ragfyr

Heddiw ym 1933 : Ganwyd Owen Edwards, yyr O.M. Edwards a ddaeth yn gyfarwyddwr cyntaf S4C ym 1981.

Y seithfed ar hugain o Ragfyr

Heddiw ym 1931 : Ganwyd y chwaraewr pêl-droed rhyngwladol, John Charles yn Abertawe.

Yr wythfed ar hugain o Ragfyr

Heddiw ym 1936 : Un o ddyddiau cynnar y Mosg cyntaf yng Nghymru a sefydlwyd gan y gweithwyr Somali yng Nghaerdydd.

Y nawfed ar hugain o Ragfyr

Heddiw ym 1926 : Sefydlwyd y gwasanaeth ffôn cyntaf rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau - o Bost Abertawe i Bost Efrog Newydd.

Y degfed ar hugain o Ragfyr

Heddiw ym 1912 : Ym Marianglas, Ynys Môn, ganwyd yr actor Hugh Griffith a enillodd Oscar am ei ran yn y ffilm Ben-Hur.

Yr unfed ar ddeg ar hugain o Ragfyr

Heddiw ym 1937 : Ganwyd Syr Anthony Hopkins ym Mhort Talbot. Enillodd Oscar am 'The Silence of the Lambs' ym 1991.

0
Tweet this article
Report

Your comments awaiting moderation

Be the first to comment

max 4000 characters