Apêl i adfer siop Jac y Barbwr
BLWYDDYN ar ôl i hen siop barbwr gau, mae'n cael lle amlwg mewn amgueddfa yn Sir Gaerfyrddin.
Fe wnaeth Jack Wardell roi'r gorau i weithio yn ei siop yn Y Tymbl cyn ymddeol y llynedd.
Roedd yn 91 oed ac fe benderfynodd roi'r siop, hen adeilad sinc, yn rhodd i Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli.
Er bod y siop bellach wedi ei symud i'r amgueddfa, mae 'na apêl am gymorth ariannol i adfer yr adeilad.
Ond ar ôl 70 mlynedd penderfynodd Jack y Barbwr roi'r gorau i dorri gwalltiau.
Erbyn hyn mae 'na olwg truenus ar yr adeilad.
Mae'r amgueddfa yn awyddus i adnewyddu ac adfywio'r siop.
"I feddwl bod y siop wedi dod yma ar gefn lori o'r Tymbl, mae'n wych," meddai Ann Dorsett o Amgueddfeydd Sir Gâr.
"Ond mae angen mwy o sinc ar y to, llawr newydd, gwaith peintio a gosod ffenestri newydd. Mae'r cyfan yn waith costus."
Y bwriad yw codi £3,500 i wneud y cyfan.
Ac un sy'n edrych ymlaen at weld y lle ar ei newydd-wedd ydi'r hen farbwr ei hun.
Dywedodd Jack y Barbwr, sydd erbyn hyn yn 92 oed, ei fod yn barod iawn i ddychwelyd i'r siop.
"Os 'yn nhw am i mi fynd lawr ar ôl iddyn nhw orffen a dodi pethe at ei gilydd a dodi pethe sydd gen i yn y ty yn y siop, rwy'n ddigon parod.
"Fe a'i lawr i wneud arddangosfa o dorri gwallt mewn ffordd hen ffasiwn hefyd os gai gyfle," ychwanegodd.
Er bod Jack yn mwynhau ei ymddeoliad mae'n gobeithio y bydd yr hen sied yn atgof o hanes cymdeithasol Y Tymbl.











Comments